Cyllid Llywodraeth Cymru yn rhoi hwb i’r defnydd o dir gan y gymuned yng Nghymru

Mae Ffermydd a Gerddi Cymdeithasol (SF&G) wedi derbyn cyllid gwerth £125,000 gan Lywodraeth Cymru, i gefnogi grwpiau cymunedol, awdurdodau lleol, a pherchnogion tir, i alluogi pobl leol i gyrchu, perchnogi, a gwella mannau gwyrdd yn eu hardal. Dyfarnwyd y grant dwy flynedd gan Weinidog dros yr Amgylchedd Llywodraeth Cymru, Hannah Blythyn, ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig, Lesley Griffiths.

Mae’r cyllid newydd yn cael ei ystyried yn hwb mawr i brosiectau mannau gwyrdd cymunedol yng Nghymru, gan roi mynediad rhad ac am ddim iddynt at gymorth a chyngor sydd eu hangen yn fawr, ynghylch materion fel dod o hyd i dir, prydlesau a chaniatâd cynllunio. Mae hyn yn dangos ymroddiad Llywodraeth Cymru i hybu ansawdd mannau gwyrdd lleol a chefnogi cymunedau i amlygu a chymryd rheolaeth dros fannau gwyrdd o’u cwmpas.

Bydd y prosiect yn cael ei gyflwyno gan Wasanaeth Cynghori ar Dir Cymunedol Cymru (CLAS Cymru), sef menter dra sefydledig sy’n defnyddio profiad a gwybodaeth arbenigol fewnol i gynghori prosiectau garddio a ffermio cymunedol ar bob agwedd ar ymholiadau tir a chynllunio. Mae CLAS Cymru wedi bod yn gweithredu yng Nghymru ers pum mlynedd, diolch i gyllid arloesol gan y Gronfa Loteri Fawr yn 2013.

Bydd tîm prosiect penodedig CLAS Cymru yn derbyn cymorth gan aelodau staff Ffermydd a Gerddi Cymdeithasol yng Nghymru, i fodloni targedau i helpu o leiaf 50 grŵp cymunedol bob blwyddyn gyda’u hanghenion tir a chynllunio. O’r rhain, bydd 10 prosiect y flwyddyn yn erbyn tystysgrifau rheoli cymunedol. Bydd y prosiectau hyn hefyd yn cael eu harddangos a’u dathlu mewn digwyddiad blynyddol.

Dywedodd Cydlynydd CLAS Cymru, Lucie Taylor, ei bod hi wrth ei bodd â’r grant newydd: “Diolch i gyllid Llywodraeth Cymru, byddwn ni’n gallu parhau i ehangu ar gyflawniadau CLAS Cymru dros y pum mlynedd diwethaf. Mae’n golygu y bydd cymorth hanfodol ar waith i bawb sy’n gysylltiedig â mannau gwyrdd, gan sicrhau y bydd mwy o dir yng Nghymru yn cael ei ddefnyddio er budd cymunedau lleol, a all gael effaith enfawr ar iechyd a lles.”

Fel rhan o’r un pecyn o gyllid, mae Cadwch Gymru’n Daclus wedi cael cyllid am ddwy flynedd i helpu hyrwyddo, rheoli a chynyddu nifer y safleoedd sy’n derbyn Baner Werdd ledled Cymru. Mae hyn yn golygu y bydd Cadwch Gymru’n Daclus yn parhau i gyflwyno cynllun Safon a Gwobr y Faner Werdd. Gan barhau â’u gwaith da, bydd Cadwch Gymru’n

Daclus yn helpu safleoedd i gynnal eu statws Baner Werdd a byddant yn gweithio gyda grwpiau cymunedol i gynyddu’r nifer sy’n derbyn Gwobr Gymunedol y Faner Werdd.   

Mae partneriaeth rhwng Ffermydd a Gerddi Cymdeithasol a Chadwch Gymru’n Daclus nawr yn cael ei ffurfio.

NODIADAU I OLYGYDDION

Cysylltwch â:
Lucie Taylor, Cydlynydd CLAS Cymru – lucie@communitylandadvice.org.uk; ffôn 02921960966
neu
Gary Mitchell – Rheolwr Ffermydd a Gerddi Cymdeithasol Cymru – Gary@farmgarden.org.uk

Ffermydd a Gerddi Cymdeithasol
Mae bywyd modern yn creu nifer o broblemau dwys, cymhleth i gymdeithas, gan adael i unigolion a chymunedau deimlo’n rhwystredig, yn arunig, ac yn ddiwerth yn aml. Mae’r materion hyn yn effeithio ar les pobl a lleoedd. Yn Ffermydd a Gerddi Cymdeithasol, rydym ni’n falch o gefnogi miloedd o brosiectau ar lawr gwlad ledled y DU, sydd wedi helpu miliynau o bobl. Maen nhw’n defnyddio ffermio a garddio fel ffordd i drawsnewid bywydau a chysylltu pobl, gan roi balchder i gymunedau, a gwella iechyd a lles. Ein gwaith ni yw cynorthwyo’r arwyr ymroddedig sy’n rhedeg y prosiectau hyn, o leiniau ffrwythau a llysiau bychan ar ystadau tai dinesig, i ffermydd gofal gwledig mawr. Rydym ni’n darparu cyngor, hyfforddiant a gwybodaeth allweddol. Rydym ni’n lledaenu’r gair am y gwaith rhyfeddol y maen nhw’n ei wneud. Rydym ni’n rhoi llais unedig iddyn nhw i lobïo’r Llywodraeth, busnesau ac arianwyr. Gan weithio gyda’n gilydd, rydym ni eisiau sicrhau y gall pobl o bob oed, gallu, cred a chefndir, ddod at ei gilydd yn ein dinasoedd, trefi a phentrefi, i gyflawni pethau gwych.

www.farmgarden.org.uk

Cysylltu:

© Gwasanaeth Cynghori ar Dir Cymunedol 2015