Astudiaeth achos: Grŵp Gardd Gymunedol Llangollen

Grŵp Gardd Gymunedol Llangollen
Welsh

Grŵp Gardd Gymunedol Llangollen

Grŵp tyfu bwyd organig yw Gardd Gymunedol Llangollen, wedi’i lleoli ar safle segur yn Llangollen, y mae Cyngor Sir Ddinbych yn berchen arno. Rhoddodd y Cyngor ganiatâd i ddatblygu prosiect tyfu cymunedol yno yn 2012. Mae’n enghraifft ardderchog o’r broses o sefydlu gardd gymunedol ar safle’r Cyngor, gyda thrwydded yn hytrach na phrydles.  

Mae gan y grŵp garddio dri phrif nod: datblygu ffynhonnell bwyd organig o ansawdd uchel yn Llangollen; darparu cyfleoedd i bobl, grwpiau ac ysgolion lleol i ymgysylltu’n uniongyrchol â’r byd naturiol a chynhyrchu bwyd; a meithrin cysylltiadau cymunedol trwy ddod ag unigolion a grwpiau lleol at ei gilydd. Mae’r grŵp yn awyddus i ddatblygu bywyd gwyllt ar y safle hefyd.

Mae Catherine Veasey, sydd wedi bod yn gysylltiedig â datblygu’r ardd trwy’r grŵp Cyfeillion y Ddaear lleol, yn disgrifio mwy am yr ardd a sut bu’n gweithio gyda’r Cyngor. Lawrlwythwch yr astudiaeth achos gan ddefnyddio’r ddolen isod:  

Grŵp Gardd Gymunedol Llangollen

 

 

Cysylltu:

© Gwasanaeth Cynghori ar Dir Cymunedol 2015