Astudiaeth Achos: Ein Gardd - Brit Growers

Ein Gardd - Brit Growers
Welsh

Mae ‘Ein Gardd’, sy’n enw addas iawn, yn safle cymunedol bywiog yn Evanstown, ger Pen-y-bont ar Ogwr, a chanddo gymysgedd eang o ddefnyddwyr o bob cwr o  Gwm Ogwr, a chaiff ei ddefnyddio’n ddyddiol gan bobl leol sy’n gofalu am eu plot neu’n eistedd a sgwrsio â ffrindiau a chymdogion.

Cynhelir y gweithgareddau tyfu ar dir gwastraff segur, a oedd yn safle llawn tai, hyd nes iddynt gael eu dymchwel rhai blynyddoedd yn ôl. Cliriwyd y safleoedd a’u tirlunio, ac maent bellach yn galon y gymuned.

Y grŵp sy’n gyfrifol am y trawsffurfiad hwn yw Brit Growers, a gysylltodd â’r gymdeithas tai, Tai Cymoedd i’r Arfordir, ynghylch dod o hyd i dir at ddefnydd cymunedol, a chawsant gynnig y safleoedd segur.  

Astudiaeth Achos: Ein Gardd - Brit Growers

 

Cysylltu:

© Gwasanaeth Cynghori ar Dir Cymunedol 2015